Ynni i Ffynnu

Cydweithio er budd cymunedau a Chymru gyfan

Er mwyn cyflawni ein cenhadaeth, mae angen i ni fod yn rhan o glymblaid eang o sefydliadau a phobl, gan nodi heriau a chyfleoedd i fynd i'r afael â rhwystrau, gyda'n gilydd.

Rydym yn adeiladu ar ymdeimlad cryf o gyfiawnder cymdeithasol, a rennir gan bobl yng Nghymru. Gallwn ddysgu oddi wrth ac ehangu ar enghreifftiau gwych o gyfranogiad a chydweithio rhwng y sectorau cyhoeddus, preifat a chymunedol.

Hoffem gweithio hefo ti. Yng Nghymru, mae gennym hanes o gydweithio ac ymgysylltu cymdeithasol. Mae hyn yn rhywbeth mae Trydan yn ei werthfawrogi, ac am barhau. Yn ein barn ni, er mwyn i bobl gefnogi cynnydd mewn ynni adnewyddadwy, bydd angen i'r sector adnewyddadwy sicrhau buddion amlwg ar gyfer cymunedau lleol. Bydd rhaid hefyd buddsoddi mwy mewn cadwyni cyflenwi Cymru a'r DU, a helpu preswylwyr a busnesau sy'n poeni am filiau ynni.

TI’n gyntaf! a Gwefr - newyddion ti a Thrydan

Rhwng Gorffennaf a Medi, 2024, cynhaliom arolwg rhyngweithiol a hygyrch. Enw’r arolwg oedd “TI’n gyntaf!” oherwydd o’r dechrau, rydym eisiau deall beth sy’n bwysig i bobl yng Nghymru o ran y prosiectau ynni adnewyddadwy sydd eu hangen i bweru cymdeithas a goleuo ein bywydau. Rydym hapus ac yn ddiolchgar am yr ymateb rhagorol cawsom yn ôl - ddaru mwy na 2350 o bobl o ledled Cymru ac o bob oed cymryd rhan. I bawb fu’n rhan o’r ymgyrch - diolch a da iawn chi! Rydym wedi bod yn astudio'r ymatebion ac yn cyhoeddi rhifyn cyntaf "Gwefr" gyda disgrifiad o'r adborth a gawsom. Rydym yn crybwyll pam mae eich barn mor bwysig i waith Trydan. Wrth i ni rannu mwy am ein gwaith datblygu gyda chi yn 2025, byddwn yn edrych gyda mwy o fanyldeb am y mathau o fuddion y bydd prosiectau ynni adnewyddadwy a ddarperir gan Drydan yn gwireddu. Mae'r data rydych chi wedi'i roi i ni yn adnodd gwerthfawr, byddwn yn tynnu arno ac yn gofyn i chi ein helpu i ddeall yn well y pynciau rydych chi'n eu codi, am gryn amser i ddod. Diolch yn fawr iawn eto! Lawr-lwythwch "GWEFR" yma. Gobeithio y gwnewch chi ei fwynhau.

Gwefr - Newyddion Ti a Thrydan Gwyrdd Cymru Rhif1 Rhag 24

Adroddiad Fer "TI'n gyntaf!"

Rydym yn cyhoeddi adroddiad cryno a gyfansoddwyd gan “Give my View Ltd.” cwmni annibynnol a gynhaliodd yr arolwg ar-lein ar ein rhan, er mwyn i chi weld braslun o’r mewnbwn derbyniwn.

Adroddiad cryno TI'n gyntaf gan GMV