Trydan Gwyrdd Cymru
Mae Trydan Gwyrdd Cymru yn gwmni preifat cofrestredig a chyfyngedig, a sefydlwyd ym mis Mawrth 2024. Rydym yn gweithredu o'n canolfan ym Merthyr Tudful.
Mae Trydan Gwyrdd Cymru yn eiddo llwyr i Lywodraeth Cymru. Llywodraeth Cymru sy’n diffinio ein cylch gwaith, ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio sy’n goruchwylio ein gweithgarwch.
Richard Evans, fel Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu, sy'n gyfrifol am reolaeth a llywodraethu cyffredinol Trydan Gwyrdd Cymru. Mae Richard yn atebol i Fwrdd Cyfarwyddwyr Anweithredol Trydan Gwyrdd Cymru.
Ein Cyfarwyddwyr a'n Tîm
Yn debyg iawn i Gymru, mae ein tîm craidd yn fach ond yn fwy na digon. Rydym yn dibynnu ar ehangder a dyfnder profiad yn y diwydiant gwynt, a enillwyd yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol. Mae ein swyddogaethau busnes yn cael eu cyflawni gan dîm sy'n tyfu, gyda phrofiad o'r sector masnachol, cyhoeddus a'r trydydd sector. Byddwn yn gweithio gydag ymgynghorwyr, gan werthfawrogi arbenigedd lleol yn arbennig, a chefnogi twf y gadwyn gyflenwi datblygu, adeiladu a gweithredu ynni adnewyddadwy yng Nghymru.
Aelodau ein Bwrdd
Llyr Roberts
#Cadeirydd y cyfarwyddwyr anweithredol
Bellach yn byw ar gyrion Caerdydd, ar ôl dewis dilyn diddordebau personol a phroffesiynol ers 2023, mae Llŷr yn “ffres” o yrfa nodedig 35+ mlynedd yn y diwydiant ceblau, yn bennaf gyda Pirelli/Prysmian. Daw â mewnwelediad masnachol ac egni o'r radd flaenaf. Mae Llŷr wedi byw a gweithio yn yr Eidal, Awstralia, Hwngari, yr Almaen a’r DU, gan ymgymryd â rolau arwain, yn y pen draw fel Uwch Is-lywydd Byd-eang ar gyfer uned fusnes Amlgyfrwng Prysmian. Cyn hyn bu’n Uwch Is-lywydd Marchnadoedd Newydd, Prif Swyddog Gweithredol Rhanbarthol Oceania, Prif Swyddog Gweithredol Rhanbarthol Dwyrain Ewrop, a Phrif Swyddog Gweithredol Gwlad.
Mae gan Llŷr B.Sc. mewn Peirianneg Drydanol ac Electronig, gradd M.Phil. mewn Technoleg Ffibr Optegol, ac MBA. Mae'n aelod o'r Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg ac yn Beiriannydd Siartredig.
Dr Rebecca Windemer
#Aelod o'r Bwrdd
Mae Rebecca yn arwain gwaith ar gynllunio a chymunedau yn Regen, canolfan ddi-elw o arbenigedd ynni. Mae ganddi PhD mewn cynllunio amgylcheddol ac arbenigedd mewn ymgysylltu â'r gymuned a derbyn ynni adnewyddadwy yn gymdeithasol. Mae'n gynllunydd tref siartredig ac yn arbenigo ar y system gynllunio ar gyfer ynni adnewyddadwy. Cyn hynny bu Rebecca’n gweithio fel uwch ddarlithydd mewn cynllunio amgylcheddol lle bu’n dylunio ac yn arwain addysgu lefel meistr ar ynni adnewyddadwy.
Dr David Williams
#Aelod o'r Bwrdd
Gyda 27 mlynedd o brofiad ar lefel Prif Swyddog Gweithredol/Cadeirydd, mae gan David brofiad helaeth o ddatblygu ynni adnewyddadwy. Mae ei effaith, wrth ddatblygu gwaith lefel Cyfleustodau gyda SWALEC, ac mewn cwmnïau preifat sy’n tyfu’n gyflym, gan gynnwys Ymddiriedolaeth Cyfalaf Menter amgylcheddol lwyddiannus Ventus, wedi arwain at anrhydeddau a gwobrau. Maent yn cynnwys doethuriaeth er anrhydedd gan Brifysgol De Cymru, Gwobr Cyfraniad Oes gan y Gymdeithas Ynni Adnewyddadwy, Entrepreneur y Flwyddyn Ernst&Young 2012, a Gwobr Supergrowth Cymru 2018. Mae wedi codi £2.3 biliwn ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy sy'n gwasanaethu 1.3 miliwn o gartrefi ac arbed 1.75 miliwn tunnell o CO2 y flwyddyn. Yn gyn-gynghorydd i Lywodraeth y DU, mae bellach yn parhau i gefnogi diwydiant, arloesedd a llesiant yng Nghymru, trwy Fwrdd Cynghori Diwydiannol Prifysgolion Caerdydd, fel NED i Sero, Trydan Gwyrdd Cymru ac fel Ymddiriedolwr Aren Cymru.
Dr Chris Bale
#Aelod o'r Bwrdd
Mae Chris yn rhedeg busnes solar ffotofoltäig ar raddfa cyfleustodau sydd â buddsoddiad yng Nghymru a Lloegr. Cyn hyn, roedd yn Brif Swyddog Gweithredol cwmni ynni adnewyddadwy Affricanaidd. Mae ganddo ystod eang o brofiad o dros 35 mlynedd o weithio yn y sector ynni.
Yn gynharach yn ei yrfa bu’n gweithio mewn rolau gweithredol yn Powergen a Scottish Power, lle’r oedd ganddo gyfrifoldeb o ddydd i ddydd am holl safleoedd cynhyrchu’r cwmni yn y DU a oedd yn gyfanswm o dros 6000MW o gapasiti. Wedi hynny gwasanaethodd fel Cyfarwyddwr Gweithredol yn Asiantaeth yr Amgylchedd gyda chyfrifoldeb corfforaethol am yrru Perfformiad ac Arloesedd. Aeth yn ei flaen i sefydlu cwmni a ddatblygodd brosiectau ynni adnewyddadwy morol.
Dyfarnwyd Doethuriaeth er Anrhydedd iddo gan Brifysgol Aston yn 2015 i gydnabod ei waith yn y sector ynni adnewyddadwy.
Connor James
#Aelod o'r Bwrdd
Yn Brif Weithredwr elusen pobl hŷn ranbarthol, mae cefndir Connor mewn gweinyddiaeth gyhoeddus a gwasanaeth cyhoeddus. Mae blynyddoedd o wirfoddoli wedi meithrin ynddo rym proses– a amlygir gan ymateb brys effeithiol, fel swyddog gorsaf gwirfoddol gyda Gwylwyr y Glannau; a phŵer pobl. Mae'n ymddiriedolwr Ategi, elusen sy'n grymuso atebion a yrrir gan y gymuned i fynd i'r afael â heriau cymdeithasol cymhleth. Mae Connor yn eiriolwr angerddol dros botensial newid cadarnhaol ynni adnewyddadwy, dros ei effaith liniaru ar yr argyfwng hinsawdd ac ar gymunedau. Bydd yn annog ffocws Trydan Gwyrdd Cymru ar lesiant unigolion a chymunedau ac mae’n awyddus i drafod sut y gallwn gyfrannu at fynd i’r afael â materion tlodi, anghydraddoldeb a diffyg gweithrediad. Mae ymagwedd Connor at gyflawni yn gydweithredol ac yn gynhwysol.
Richard Evans
#Prif Swyddog Gweithredol
Mae Richard wedi bod yn gweithio yn y diwydiant ynni adnewyddadwy ers deunaw mlynedd, gan ddatblygu prosiectau seilwaith mawr, cymhleth ledled Cymru a Lloegr. Cyn ymuno â Trydan Gwyrdd Cymru, gan weithio fel ymgynghorydd, Richard oedd Cyfarwyddwr Rhaglen Datblygwyr Ynni Adnewyddadwy Llywodraeth Cymru a gynhaliodd astudiaeth ddichonoldeb ar draws yr ystâd, nodi portffolio posibl o brosiectau a chefnogi sefydlu Trydan Gwyrdd Cymru. Magwyd Richard yn y canolbarth ac mae'n siarad Cymraeg yn rhugl.
PENDING WELSH
Dr Catrin Ellis Jones
#Pennaeth Ymrwymiad Cyhoeddus
Ffocws Catrin yn Trydan Gwyrdd Cymru yw darparu buddion, nawr, ac yn y tymor hir. Bydd Catrin yn chwilio am amrywiaeth eang a chynhwysol o leisiau cymunedol a safbwyntiau rhanddeiliaid, i lunio prosiectau a llywio rhaglenni.
Yn enedigol o Eryri, astudiodd Catrin ddaeareg. Mewn gyrfa sy’n ymestyn dros dri degawd (hyd yn hyn), ac yn hynod leol i feysydd rhyngwladol, mae wedi bod yn ymwneud ag archwilio adnoddau naturiol, echdynnu, ac yn y pen draw, ffyrdd gwell a thecach o weithio gyda byd natur.
A hithau’n arfer bod yn Bennaeth Ymgysylltu â Rhanddeiliaid ar gyfer Gwynt ar y Môr yn Vattenfall, mae Catrin yn dod â mewnwelediadau o wahanol gyfundrefnau sy'n rheoleiddio datblygiadau ledled Ewrop. Mae ei gwaith yng Nghymru yn amrywio o ddylunio deialog sy’n llywio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, i sefydlu Cronfa Budd Cymunedol Pen y Cymoedd.
Mae Catrin yn byw gyda'i theulu ym Mhowys.
Simon Morgan
#Cyfarwyddwr Datblygu
Rôl Simon yw arwain gweithgareddau datblygu Trydan Gwyrdd Cymru, gan osod strategaeth ddatblygu glir ar gyfer portffolio o brosiectau ar yr ystâd gyhoeddus. Ei angerdd yw gweithio gyda chadwyni cyflenwi lleol a chymunedau i ddylunio’n sensitif brosiectau ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr sy’n fasnachol hyfyw ac sy’n darparu’r gwerth cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol mwyaf posibl, i gymunedau’r prosiectau ac i Gymru gyfan.
Magwyd Simon yn Abertawe. Astudiodd ddaeareg a bu’n gweithio yn y sector Olew a Nwy fel peiriannydd alltraeth cyn dychwelyd i'r brifysgol i gwblhau MSc mewn Ynni Adnewyddadwy a Rheoli Adnoddau ym Mhrifysgol De Cymru yn 2006. Ers hynny, mae wedi bod yn gweithio yn y sector ynni adnewyddadwy, gyda datblygiadau gwynt ar y tir a solar ledled Cymru a’r DU yn bennaf.
Mae'n byw yng Nghaerdydd gyda'i deulu ifanc.
Daniel Patterson
#Rheolwr Prosiectau
Mae Daniel wedi bod yn gweithio yn y sector ynni adnewyddadwy yng Nghymru ers dros 15 mlynedd.
Ers dros ddeng mlynedd, mae Daniel wedi bod yn gweithio fel ymgynghorydd amgylcheddol, yn cefnogi datblygwyr yn y sector preifat a chyhoeddus gyda darpar brosiectau cynhyrchu ynni ar y tir a phrosiectau trawsyrru / dosbarthu trydan. Yn ogystal, treuliodd Daniel bum mlynedd yn gweithio fel Rheolwr Datblygu i gwmni ynni adnewyddadwy annibynnol, RES UK & Ireland Ltd, gan ganolbwyntio ar gyflawni prosiectau gwynt ar y tir ar raddfa fawr yng Nghymru a Lloegr.
Fel rhan o Dîm Datblygu Trydan Gwyrdd Cymru, bydd Daniel yn gyfrifol am gyflawni prosiectau ynni adnewyddadwy yn llwyddiannus ledled Cymru o’r dechrau hyd at drosglwyddo i’r tîm adeiladu.
Mae Daniel wedi bod y byw yng Nghymru ers dros 20 mlynedd ac ar hyn o bryd mae’n byw ar gyrion Caerdydd gyda’i deulu ifanc.
Mark Roberts
#Rheolwr Prosiectau
Rôl Mark yw rheoli’r gwaith o gyflawni prosiectau datblygu Trydan Gwyrdd Cymru drwy’r broses gynllunio.
Magwyd Mark yn Aberystwyth. Astudiodd Gynllunio Dinesig a Rhanbarthol ym Mhrifysgol Caerdydd gan raddio gyda BSc (Anrh) a Diploma yn 1996. Mae wedi bod yn Aelod Siartredig o'r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol ers 1997. Dechreuodd gyrfa Mark yn Adrannau Cynllunio dau Awdurdod Cynllunio Lleol yng Nghymru cyn gweithio yn y sector preifat fel ymgynghorydd cynllunio am dros 20 mlynedd yng Nghaerdydd. Mae Mark wedi sicrhau caniatâd cynllunio ar gyfer ystod eang o brosiectau datblygu yng Nghymru, gan gynnwys ynni adnewyddadwy a phrosiectau seilwaith.
Mae'n byw yn Sir Fynwy gyda'i deulu.
Steve Evans
#Rheolwr Cyllid
Ymunodd Steve â Trydan Gwyrdd Cymru ym mis Mai 2024. Yn gyfrifydd siartredig, gyda phrofiad masnachol a dielw, Steve sy’n gyfrifol am reoli cyllid Trydan Gwyrdd Cymru yn effeithiol.
Yn dilyn sawl blwyddyn mewn swyddogaethau cyllid yn y GIG a Llywodraeth Cymru, symudodd Steve i Cartrefi Cymunedol Cymru. Yno, bu’n rhan annatod o sefydlu Bond Cymreig, cyfrwng a ddefnyddir i ddenu cyllid i Gymru gan gynyddu darpariaeth cartrefi i bobl Cymru, cefnogi adfywio, a gwella cymunedau lleol. Cyn ymuno â “Trydan” roedd Steve yn arweinydd tîm cyllid elusen gofal cymdeithasol fawr, o’r enw Drive, sy’n gweithredu ar draws de Cymru.
Daw Steve o orllewin Cymru yn wreiddiol ac mae bellach yn byw ar gyrion Caerdydd.
Russell Jordan
#Arweinydd Technegol
Daw Russell ag arweinyddiaeth dechnegol ac arbenigedd mewn dadansoddiad gofodol i Drydan Gwyrdd Cymru. Gyda dros 20 mlynedd o brofiad o Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS), rheoli data a dadansoddiad gofodol, ac awtomeiddio data, bydd yn sicrhau ein bod yn cymhwyso ac yn gwella arfer gorau'r diwydiant, ledled ein portffolio a'n rhaglenni.
Mae Russell wedi gweithio ar draws ystod o ddiwydiannau gan gynnwys dŵr, yr amgylchedd a pheirianneg/dylunio. Ymhlith uchafbwyntiau ei yrfa hyd yma, mae wedi bod yn arweinydd technegol ar brosiectau ar raddfa genedlaethol ar gyfer cleientiaid fel Llywodraeth Cymru, High Speed Two Ltd ac Asiantaeth yr Amgylchedd, yn ogystal â llawer o brosiectau llai eraill ledled y DU.
Mae'n byw yng Nghaerdydd gyda'i deulu ifanc.