Er mwyn cyflawni ein cenhadaeth, mae angen i ni fod yn rhan o glymblaid eang o sefydliadau a phobl, gan nodi heriau a chyfleoedd i fynd i'r afael â rhwystrau, gyda'n gilydd.
Rydym yn adeiladu ar ymdeimlad cryf o gyfiawnder cymdeithasol, a rennir gan bobl yng Nghymru. Gallwn ddysgu oddi wrth ac ehangu ar enghreifftiau gwych o gyfranogiad a chydweithio rhwng y sectorau cyhoeddus, preifat a chymunedol.
Hoffem glywed gennyt ti. Yng Nghymru, mae gennym hanes o gydweithio ac ymgysylltu cymdeithasol. Mae hyn yn rhywbeth mae Trydan yn ei werthfawrogi, ac am barhau. Yn ein barn ni, er mwyn i bobl gefnogi cynnydd mewn ynni adnewyddadwy, bydd angen i'r sector adnewyddadwy sicrhau buddion amlwg ar gyfer cymunedau lleol. Bydd rhaid hefyd buddsoddi mwy mewn cadwyni cyflenwi Cymru a'r DU, a helpu preswylwyr a busnesau sy'n poeni am filiau ynni.
TI’n gyntaf!
Heddiw rydym yn lansio ein hymgyrch ymgysylltu, gan geisio dod â dinasyddion Cymru gyda ni ar y daith gyffrous hon. Rydyn ni eisiau clywed gennyt TI’n gyntaf - beth yw dy brofiad di o fyw yn agos at brosiectau sy'n cynhyrchu ynni adnewyddadwy? Beth yw dy brofiad o'r buddion sy'n gysylltiedig â phrosiectau sy’n creu ynni gwyrdd? Beth wyt ti’n meddwl sydd bwysicaf i brosiectau adnewyddadwy eu cyflawni? A wyt ti’n meddwl dylai'r flaenoriaeth fod ar gyfer dosbarthu'r manteision sy'n deillio o fentrau Trydan Gwyrdd Cymru?
Cwblhewch ein harolwg