Arweinydd Cysylltiadau Grid

Gwybodaeth ar gyfer Ymgeiswyr

Un o'r heriau allweddol ar gyfer darparu capasiti ynni adnewyddadwy newydd yw cysylltu prosiectau â'r rhwydwaith grid. Er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r mater hwn, rydym nawr yn ceisio ehangu ein tîm drwy recriwtio arweinydd cysylltiadau grid profiadol i gyflawni rôl ein harbenigwr mewnol ar bob mater sy’n ymwneud â’r grid. Mae hon yn rôl arbenigol, sy'n gofyn am beiriannydd trydanol wedi’i hyfforddi sydd ag arbenigedd mewn cysylltiadau grid lefel dosbarthu a thrawsyrru, yn ogystal â hyfedredd technegol mewn anghenion cysylltu â'r grid megis integreiddio â’r grid, dylunio systemau, astudiaethau cysylltiadau, cydymffurfio, monitro perfformiad, a dogfennau trwyddedu.

Dyma gyfle gwych i rywun sy'n chwilio am her newydd i fod yn rhan o rywbeth o'r cychwyn cyntaf i greu dyfodol mwy cynaliadwy i bawb.

Lawrlwytha'r pecyn gwybodaeth ar gyfer ymgeiswyr a'r ffurflen monitro amrywiaeth, ac amdani! Y dyddiad cau yw 20 Rhagfur.