Ymunwch a'n tîm wrth i ni dyfu
Wrth i ni barhau i ehangu, rydym yn chwilio am Arbenigwr Caffael a Chontractau i ymuno â’n tîm. Byddwch yn adrodd yn uniongyrchol i’r Rheolwr Caffael a Chontractau, ac yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi gweithgareddau caffael ym mhob rhan o’r busnes, gan sicrhau bod ein prosiectau ynni adnewyddadwy’n cael eu cyflawni’n llwyddiannus a chynaliadwy. Yn y rôl allweddol hon, byddwch yn cydweithio â rhanddeiliaid i gysoni strategaethau caffael â’n nodau. Byddwch yn helpu i reoli contractau allweddol, asesu amodau'r farchnad, lliniaru risgiau, a manteisio ar gyfleoedd newydd – a’r cyfan wrth gynnal y safonau uchaf o effeithlonrwydd a phroffesiynoldeb.
Yr hyn rydym yn chwilio amdano
Rydym yn chwilio am unigolyn rhagweithiol sydd â phrofiad cadarn ym maes caffael a rheoli contractau. Mae profiad blaenorol o fewn y sector cyhoeddus neu adeiladu’n hanfodol.
Bydd angen i chi fod yn:
- Drefnus, sgiliau trefnu cryf, delio â gweithgareddau caffael lluosog.
- Dadansoddol eich meddwl, yn gallu mynd i'r afael â heriau gydag atebion sy'n cael eu gyrru gan ddata.
- Gallu gweithio fel aelod o dîm, yn gyfforddus yn gweithio ar y cyd â rhanddeiliaid amrywiol.
- Hyfedr yn Microsoft Office, yn enwedig Excel, ac yn gallu rheoli setiau data mawr yn effeithiol.
Lleoliad
Bydd y cwmni'n gweithredu gan ddefnyddio model hybrid, lle bydd staff yn treulio cyfran o'u hamser yn gweithio gartref pan nad ydynt yn ein swyddfeydd. Mae Prif Swyddfa’r Cwmni wedi’i lleoli ym Merthyr Tudful.
Lawrlwythwch y pecyn gwybodaeth i ymgeiswyr yma a’r ffurflen monitro amrywiaeth i wneud cais erbyn 16:00 ar 5 Mawrth 2025 fan bellaf.