Rydym yn chwilio am raddedig ddiweddar i ymuno â’n tîm fel Swyddog Cyswllt Cymunedol a Chyfathrebu, wrth i ni dyfu. Mae hwn yn gyfle cyffrous i raddedig diweddar sy’n awyddus i ddechrau gyrfa ym maes ymgysylltu cyhoeddus, cyfathrebu, ac ynni adnewyddadwy.
Mae arnom angen rhywun sy’n rhannu ein huchelgais: rhaid i Gymru ddatblygu’r prosiectau ynni adnewyddadwy cywir, yn y safleoedd cywir, gan sicrhau buddion economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol i gymunedau lleol ac i Gymru.
Rydym yn cydweithio â Daragon felly cliciwch ar y ddolen isod i wneud cais!