​​Trydan Gwyrdd Cymru - Hysbysiad Preifatrwydd​




 

Crëwyd: 11 Gorffennaf 2024  

Diweddarwyd ddiwethaf: 11 Gorffennaf 2024 

  1. GWYBODAETH BWYSIG A PHWY YDYM NI 

  1. Mae'r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn manylu ar sut yr ydym ni, Trydan Gwyrdd Cymru Cyf, yn casglu a phrosesu eich data personol.  

  1. Mae'r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn ymwneud â'ch data personol sy'n cael ei gasglu, ei brosesu, ei storio neu ei ddefnyddio fel arall gennym ni fel rheolydd data, er enghraifft, mewn perthynas â data personol a gesglir trwy eich defnydd o'n gwefan neu trwy gymryd rhan yn ein hymchwil i'r farchnad. Rydym ni wedi cofrestru fel rheolydd data gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.  

  1. Dylech ddarllen yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn ynghyd ag unrhyw bolisi prosesu teg arall y gallwn ei ddarparu ar achlysuron penodol pan fyddwn yn casglu neu'n prosesu data personol amdanoch fel eich bod yn gwbl ymwybodol o sut a pham yr ydym ni’n defnyddio eich data. Mae'r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn ategu hysbysiadau a pholisïau preifatrwydd eraill ac ni fwriedir iddo eu diystyru.  

  1. Gall yr hysbysiad preifatrwydd hwn newid o bryd i'w gilydd ac, os yw'n gwneud hynny, bydd y fersiwn gyfredol ar gael bob amser ar ein gwefan.  

  1. Efallai y byddwn ni’n cynnwys dolenni i wefannau trydydd parti, ategion a chymwysiadau. Gall clicio ar y dolenni hynny neu alluogi'r cysylltiadau hynny ganiatáu i drydydd partïon gasglu neu rannu data amdanoch chi. Nid ydym yn rheoli'r gwefannau trydydd parti hyn ac nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd am y polisïau hyn. Gwiriwch y polisïau hyn cyn i chi gyflwyno unrhyw ddata personol i'r gwefannau hyn.  

  1. CYSYLLTU Â NI A CHWYNION 

  1. Rydym ni wedi penodi Swyddog Diogelu Data sy'n gyfrifol am oruchwylio cwestiynau mewn perthynas â'r hysbysiad preifatrwydd hwn. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn neu ein defnydd o'ch gwybodaeth, gallwch gysylltu â ni ar croeso@trydangwyrddcymru.cymru  

  1. Mae gennych chi hefyd yr hawl i wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth am ein defnydd o'ch gwybodaeth, gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn Cysylltu â ni - cyhoeddus | ICO

  1. PA DDATA RYDYM NI’N EI GASGLU 

  1. Efallai y byddwn ni’n casglu, defnyddio, storio a throsglwyddo gwahanol fathau o ddata personol amdanoch chi yr ydym ni wedi'u grwpio fel a ganlyn: 

  1. Gwybodaeth rydych chi'n ei rhoi i ni. Efallai y byddwch chi’n rhoi gwybodaeth i ni amdanoch wrth gyfathrebu â ni drwy'r post, e-bost, ffôn, yn bersonol, drwy holiadur ar-lein neu drwy ein gwefan.  

           Gall y wybodaeth rydych chi’n ei rhoi i ni gynnwys eich enw                   a'ch manylion cyswllt, megis cyfeiriad e-bost, cyfeiriad                         cartref a rhif ffôn (neu gyfeiriad e-bost busnes a rhif ffôn                     busnes), eich barn am ein prosiectau, eich barn am                                 ddinasyddiaeth ynni, eich cyflogaeth, oedran, rhyw a hil neu                 ethnigrwydd.  

  1. Gwybodaeth rydym ni’n ei chasglu amdanoch chi. Bob tro y byddwch chi’n ymweld â'n gwefan, efallai y byddwn yn casglu'r wybodaeth ganlynol yn awtomatig: 

  1. gwybodaeth am ddefnydd y we (e.e. cyfeiriad IP), eich gwybodaeth mewngofnodi, math a fersiwn y porwr, gosodiad parth amser, system weithredu a phlatfform; a  

  1. gwybodaeth am eich ymweliad, gan gynnwys yr URL clickstream i, drwy ac o'n gwefan (gan gynnwys dyddiad ac amser); amser ar dudalen, amseroedd ymateb tudalen, gwallau lawrlwytho, hyd ymweliadau â thudalennau penodol, gwybodaeth rhyngweithio tudalen (megis sgrolio, cliciau a llusgo’r llygoden).  

  1. Gwybodaeth rydym ni’n ei derbyn o ffynonellau eraill. Efallai y byddwn ni’n comisiynu trydydd partïon i'n helpu i ymgysylltu â chi a gofyn eich barn ar gwestiynau sy'n berthnasol i'n cenhadaeth a'n gweledigaeth ddiben. Efallai y byddwn ni’n derbyn gwybodaeth amdanoch gan drydydd partïon, gan gynnwys data technegol gan ddarparwyr dadansoddeg neu gan ein cyflenwyr trydydd parti.​     ​ 

  1. Rydym hefyd yn casglu, defnyddio a rhannu Data Cyfanredol megis data ystadegol neu ddemograffig at unrhyw ddiben. Gallai data cyfanredol ddeillio o'ch data personol ond nid yw'n cael ei ystyried yn ddata personol yn y gyfraith gan na fydd y data hwn yn datgelu eich hunaniaeth yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol. Er enghraifft, efallai y byddwn yn cyfuno'r data ar sut rydych chi'n defnyddio ein gwefan i gyfrifo canran y defnyddwyr sy'n cyrchu nodwedd benodol ar y wefan. Fodd bynnag, os ydym yn cyfuno neu'n cysylltu Data Cyfanredol gyda'ch data personol fel y gall ddatgelu eich hunaniaeth yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, rydym yn trin y data cyfun fel data personol a fydd yn cael ei ddefnyddio yn unol â'r Hysbysiad Preifatrwydd hwn. 

  1. Rydym yn casglu Categorïau Arbennig o Ddata Personol amdanoch chi (gall hyn gynnwys manylion am eich hil neu ethnigrwydd, credoau crefyddol neu athronyddol, cyfeiriadedd rhywiol, barn wleidyddol, aelodaeth undeb llafur, gwybodaeth am eich iechyd, a data genetig a biometrig). Nid ydym yn casglu unrhyw wybodaeth am euogfarnau troseddol a throseddau.  

  1. EIN DEFNYDD O CWCIS  

  1. Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis i'ch gwahaniaethu oddi wrth ddefnyddwyr eraill, i wella eich profiad ar ein gwefan. Gallwch osod eich porwr i wrthod holl cwcis y porwr neu rai ohonynt, neu i'ch rhybuddio pan fydd gwefannau'n gosod neu'n cyrchu cwcis. Os ydych chi'n analluogi neu'n gwrthod cwcis, nodwch y gallai rhai rhannau o'r wefan hon ddod yn anhygyrch neu beidio â gweithredu'n iawn.  Am fwy o wybodaeth, edrychwch ar ein Polisi Cwcis yn ​yma

  1. SUT RYDYM NI’N DEFNYDDIO EICH DATA 

  1. Rydym ni’n defnyddio eich data i wneud y canlynol: 

  • ymateb i unrhyw ymholiadau a anfonwch atom, os ydych chi wedi gofyn i ni am ymateb 

  • casglu data at ddibenion ymchwil y farchnad i lywio ein gwaith a dylanwadu ar ein penderfyniadau  

  • annog cyfranogiad yn ein gweithgareddau ymgysylltu 

  • monitro'r defnydd o'r wefan hon gan gynnwys i nodi unrhyw fygythiadau diogelwch 

  • monitro perfformiad ein gwefan i nodi aneffeithlonrwydd a gwallau 

  • rhoi gwybod i chi am newidiadau i'r hysbysiad preifatrwydd hwn 

  1. EIN SAIL GYFREITHIOL AR GYFER PROSESU EICH DATA 

At ddibenion diogelwch y safle 

Ein buddiannau cyfreithlon, a buddiannau ein defnyddwyr, wrth sicrhau diogelwch a chywirdeb y wefan hon 

Pob pwrpas arall 

Ein buddiannau cyfreithlon o ddarparu ymateb i ymholiad a gyflwynwyd gennych chi a chasglu gwybodaeth a barn rhanddeiliaid i lywio ein gwaith a dylanwadu ar wneud penderfyniadau a/neu waith ar opsiynau. 

 

Weithiau, efallai y bydd angen i ni brosesu eich data i gydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol neu reoleiddiol.  

  1. Sylwch y gallwn ni brosesu eich data personol heb eich gwybodaeth neu eich caniatâd, yn unol â'r rheolau perthnasol, lle mae hyn yn ofynnol neu'n cael ei ganiatáu gan y gyfraith. 

  1. AM BA HYD RYDYM NI’N CADW EICH DATA  

  1. Byddwn yn cadw eich data personol cyhyd ag y bydd ei angen at y dibenion a nodir yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn neu cyhyd ag y bo'n ofynnol i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith berthnasol.  

  1. Byddwn ni’n gwneud y canlynol:  

  • cadw data sy'n ymwneud â'r broses gynllunio (gan gynnwys ymholiadau rydych chi’n eu hanfon atom) drwy gydol y broses gynllunio sydd fel arfer yn amrywio rhwng 2 a 10 mlynedd, yn dibynnu ar y prosiect 

  • cadw data ymchwil i'r farchnad am 5 mlynedd ac ar ôl hynny efallai y byddwn yn anonymeiddio eich data  

  • cadw data mewn perthynas â'ch defnydd o'n gwefan am 100 diwrnod ac ar ôl hynny byddwn yn ei ddileu'n ddiogel.  

  1. CYNNWYS HYRWYDDO A MARCHNATA TRYDYDD PARTI  

  1. Fel y nodir uchod, byddwn yn defnyddio'ch data personol i rannu cynnwys hyrwyddo ac annog cyfranogiad yn ein gweithgareddau ymgysylltu.  

  1. Ac eithrio fel y nodir uchod, nid ydym yn dibynnu ar gydsyniad fel sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol.  

  1. SUT RYDYM NI’N RHANNU EICH DATA PERSONOL 

  1. Efallai y byddwn yn rhannu eich data personol gyda'r partïon a nodir isod at y dibenion a nodir yn y tabl ym mharagraff 4 uchod: 

  1. Darparwyr gwasanaeth sy'n darparu gwasanaethau TG a gwasanaethau gweinyddu system. 

  1. Ymgynghorwyr proffesiynol gan gynnwys cyfreithwyr, bancwyr, archwilwyr ac yswirwyr sy'n darparu gwasanaethau ymgynghori, bancio, cyfreithiol, yswiriant a chyfrifyddu.  

  1. Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, rheoleiddwyr ac awdurdodau eraill sy'n gweithredu fel proseswyr neu gyd-reolyddion yn y Deyrnas Unedig sydd angen adrodd am weithgareddau prosesu mewn rhai amgylchiadau. 

  1. Contractwyr ymgysylltu at ddibenion dadansoddi a llunio adroddiadau ar gyfer ymchwil i'r farchnad yn unig. 

  1. Trydydd partïon y gallwn ddewis gwerthu, trosglwyddo neu uno rhannau o'n busnes neu ein hasedau iddynt. Fel arall, efallai y byddwn yn ceisio caffael busnesau eraill neu uno â nhw. Os bydd newid yn digwydd i'n busnes, yna gall y perchnogion newydd ddefnyddio eich data personol yn yr un modd ag a nodir yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn. 

  1. Byddwn hefyd yn rhannu data gyda Llywodraeth Cymru, ond bydd y data hwn yn ddienw.  ​     ​ 

  1. TROSGLWYDDIADAU RHYNGWLADOL  

  1. Efallai y byddwn yn trosglwyddo eich data personol i ddarparwyr gwasanaethau sy'n cyflawni rhai swyddogaethau ar ein rhan. Gall hyn olygu trosglwyddo data personol y tu allan i'r DU i wledydd sydd â deddfau nad ydynt yn darparu'r un lefel o ddiogelu data â chyfraith y DU. 

  1. Pryd bynnag y byddwn yn trosglwyddo eich data personol allan o'r DU i ddarparwyr gwasanaethau, rydym yn sicrhau ei fod yn destun lefel debyg o ddiogelwch drwy sicrhau bod y mesurau diogelu canlynol ar waith: 

  1. Byddwn ond yn trosglwyddo eich data personol i wledydd y mae'r DU wedi barnu eu bod yn darparu lefel ddigonol o ddiogelwch ar gyfer data personol, sef yr Undeb Ewropeaidd. 

  1. Pan fyddwn yn defnyddio rhai darparwyr gwasanaethau, efallai y byddwn yn defnyddio contractau penodol a gymeradwywyd i'w defnyddio yn y DU sy'n rhoi'r un diogelwch i ddata personol ag sydd ganddo yn y DU.  

  1. Cysylltwch â ni os ydych chi angen rhagor o wybodaeth am y mecanwaith penodol rydym ni’n ei ddefnyddio wrth drosglwyddo eich data personol allan o'r DU.  

  1. SUT RYDYM NI’N DIOGELU EICH DATA 

  1. Mae diogelu eich data yn bwysig i ni. Rydym wedi rhoi mesurau diogelwch priodol ar waith i atal eich data personol rhag cael ei golli, ei ddefnyddio neu ei gyrchu'n ddamweiniol mewn ffordd anawdurdodedig, ei newid neu ei ddatgelu. Yn ogystal, rydym yn cyfyngu mynediad i'ch data personol i'r gweithwyr, asiantau, contractwyr a thrydydd partïon eraill sydd angen gwybod ar sail busnes. Byddant ond yn prosesu eich data personol yn dilyn ein cyfarwyddiadau, ac maen nhw’n ddarostyngedig i ddyletswydd cyfrinachedd. 

  1. EICH HAWLIAU 

  1. O dan rai amgylchiadau, mae gennych chi hawliau o dan gyfraith diogelu data mewn perthynas â'ch data personol. Mae gennych chi hawl i wneud y canlynol: 

  1. Gofyn am fynediad i'ch data personol (a elwir yn gyffredin yn "gais am fynediad gwrthrych data").  

  1. Gwneud cais i gywiro’r data personol sydd gennym ni amdanoch chi.  

  1. Gofyn i'ch data personol gael ei ddileu os nad oes rheswm da i ni barhau i'w brosesu.  

  1. Gwrthwynebu prosesu eich data personol lle rydym yn dibynnu ar fuddiant cyfreithlon (neu fuddiannau trydydd parti). 

  1. Gwneud cais i roi cyfyngiad ar brosesu eich data personol.  

  1. Gofyn am drosglwyddo eich data personol i chi neu drydydd parti.  

  1. Tynnu caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg pan fyddwn yn dibynnu ar gydsyniad i brosesu eich data personol.  

  1. Gallwch arfer yr hawliau hyn drwy gysylltu â ni yn croeso@trydangwyrddcymru.cymru