Cyhoeddwyd 20/09/2024 | Diweddaru Diwethaf 20/09/2024
Dinasyddion ynni yng Nghymru
Diolch yn fawr iawn i bawb sydd eisoes wedi cymryd rhan yn ein harolwg "Ti‘n Gyntaf."
Rydym yn falch ac yn ddiolchgar iawn i adrodd hyd yma, mae:
• Mwy na 12,700 o ymweliadau â safle'r arolwg,
• Bron i 2,350 o gyfranogwyr unigol,
• Atebion i fwy na 11,100 o gwestiynau, a
• Mwy na 2,600 darn o adborth ysgrifenedig.
Wow!
Mae'r amser yn brin i ti gymryd rhan. Mae'r arolwg yn cau am 9yb ddydd Llun 23 Medi. Byddem wir yn hoffi dy mewnbwn. Bydda’n rhan o'r ymdrech gydweithredol drawiadol hon.
Dim ond tua 5-7 munud y bydd yn ei gymryd. (Neu, gwna baned, a chym d’amser ar y cwestiynau agored, os oes gen ti lawer i'w ddweud). Gallai hyn fod yn gam cyntaf i ddweud wrthym beth yw dy farn am sut y dylai ein cwmni ddelifro. Mae Trydan, cofia yn gwmni sy'n eiddo llawn i Lywodraeth Cymru, sy'n gweithredu i sicrhau'r buddion mwyaf posibl i bobl Cymru, o ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr, a gynhyrchir yma, yng Nghymru. Felly, ie, mi fedri di helpu i lunio'r hyn rydyn ni'n ei wneud.
Mae tîm Trydan yn dy gyfarch fel Dinasydd Ynni, oherwydd os wyt ti’n darllen hwn, mae dy ddirddordeb mewn ynni'n amlwg. Nid cwsmer ynni yn unig wyt ti. (All neb fforddio bod yn cwsmer ynni ddiofal y dyddiau hyn). Pwy sydd ddim eisiau:
• Gostyngiadau tymor hir, parhaol yng nghost ynni?
• I’r ynni a gynhyrchir heddiw ac yfory gael ei ddefnyddio, gwerthfawrogi ac arbed, yn y fath fodd fel ein bod i gyd yn elwa mwy, o ynni fforddiadwy?
• Cyflenwad a phris yr egni rydym yn dibynnu arno i fod yn ddiogel, rhag gwleidyddiaeth a digwyddiadau aflonyddgar sy'n digwydd ymhell i ffwrdd?
• I Gymru, y DU a'r byd, i bontio i system ynni teg, sy'n fwy cyfeillgar i natur ac i'r hinsawdd? Un y mae gan ddinasyddion ynni heddiw gyfran wirioneddol ynddo, un sy'n bositif a chadarnhaol i bobl ifanc edrych ymlaen at fod yn gyfrifol amdano. A system ynni y bydd cenedlaethau'r dyfodol yn gwerthfawrogi adeiladu arni.
Os yw unrhyw un o'r uchod yn peri i ti feddwl "ie, dyna dwi isio" rwyt ti’n dinesydd ynni!
Os nad wyt ti wedi cwblhau'r arolwg, gwna hynny, os gweli’n dda. Mae'r i'w weld ar y tudalen Cymuned. Gâd gyfeiriad e-bost ar ddiwedd yr arolwg fel y gallwn gadw mewn cysylltiad. Neu tyrd nol at ein gwefan yn fuan i gael mwy o feddyliau a chyfleoedd i ddweud wrthym am dy farn ar beth mae bod yn ddinesydd ynni yn ei olygu i ti.
Byddwn yn cyhoeddi adroddiad ar ganlyniadau "Ti’n gyntaf" mewn ychydig wythnosau.
Diolch!