Trydan Gwyrdd Cymru Yn Cychwyn Wythnos Cyflog Byw Drwy Ddod Yn Gyflogwr Cyflog Byw

Cyhoeddwyd 04/11/2024   |   Diweddaru Diwethaf 04/11/2024

Mae Trydan Gwyrdd Cymru yn nodi dechrau Wythnos Cyflog Byw drwy ddod yn Gyflogwr Cyflog Byw achrededig. Ychydig fisoedd wedi ein lansiad gan Lywodraeth Cymru, rydym wrthi’n ddygn gyda’r gwaith o sicrhau'r buddion gorau i Gymru o bortffolio o brosiectau ynni adnewyddadwy i'w datblygu ar draws Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru.

Bydd eu hymrwymiad i Gyflog Byw yn golygu bod pawb sy'n gweithio yn Trydan Gwyrdd Cymru yn derbyn isafswm cyflog o £12.60 yr awr, sy'n uwch na'r isafswm statudol ar gyfer pobl dros 21 oed, sydd ar hyn o bryd yn £11.44 yr awr, gan godi i £12.21 o fis Ebrill 2025.

Yng Nghymru, mae mwy na degfed ran o'r holl weithwyr (12.9%) yn ennill llai nag sydd angen iddynt i goroesi, gyda thua 161,000 o swyddi yn talu llai na'r Cyflog Byw go iawn. Mae Trydan Gwyrdd Cymru, sydd â'i bencadlys ym Merthyr Tudful, Cymru wedi ymrwymo i dalu'r Cyflog Byw go iawn a sicrhau tâl teg am ddiwrnod o waith da.

Y Cyflog Byw go iawn yw'r unig gyfradd a gyfrifir yn ôl costau byw. Mae'n darparu meincnod gwirfoddol i gyflogwyr sy'n dymuno sicrhau bod eu staff yn ennill cyflog y gallant fyw arno, yn hytrach na’r lleiafswm statudol yn unig. Ers 2011 mae'r mudiad Cyflog Byw wedi sicrhau codiad cyflog i bron i hanner miliwn o bobl ac wedi rhoi £3.5 biliwn ychwanegol ym mhocedi gweithwyr ar gyflogau isel.

Dywedodd Richard Evans, Prif Weithredwr, Trydan Gwyrdd Cymru: "Mae Trydan Gwyrdd Cymru yn falch iawn o ddathlu ac arddangos ein hachrediad Cyflog Byw. Ein pwrpas yw adeiladu gwerth i bobl Cymru dros y tymor hir, a chyfrannu at gyflymu trawsnewidiad ynni teg a chyfiawn, lle bydd ynni adnewyddadwy yn rhoi'r pŵer i Gymru ffynnu. Wrth gwrs, mae hynny'n dechrau gyda'n staff."

"Mae sector ynni adnewyddadwy Cymru, a'r DU yn un sy'n cynnig swyddi o ansawdd i'w gweithwyr, swyddi sy'n perthnasol heddiw, ac fydd yn berthnasol yn y dyfodol. Rydym yn annog eraill yn ein diwydiant i ymuno â ni i arddangos yr un ymrwymiad, gyda balchder."

Dywedodd Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans: "Mae Trydan Gwyrdd Cymru wedi'i greu i arwain y ffordd, nid yn unig o ran ddatblygu prosiectau ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr ond hefyd o ran sut mae'n cyflawni ar gyfer cymunedau ledled Cymru.”

"Wrth osod esiampl mor gryf o'r hyn y mae'n ei olygu i fod yn ddatblygwr ynni adnewyddadwy sy'n gyfrifol yn gymdeithasol, mae Trydan Gwyrdd Cymru yn ymuno â nifer fach ond cynyddol o sefydliadau ynni yng Nghymru sydd yn gwneu yr un ymrwymiad. Mae hefyd yn cyflawni agwedd o’i gylch gwaith, gan ddangos ymarfer rhagorol."

Ychwanegodd Jack Sargeant AS, y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol: "Mae'n newyddion gwych bod Trydan Gwyrdd Cymru wedi ymrwymo i dalu'r Cyflog Byw go iawn i'w gweithwyr ac wedi ennill achrediad am wneud hynny. Maent yn ymuno â band cynyddol o gyflogwyr Cyflog Byw go iawn yng Nghymru.

"Mae'r Cyflog Byw go iawn yn waelodlin allweddol o ran rhoi mwy o sicrwydd ariannol i weithwyr ac yn helpu i greu gwaith tecach. Rwy'n gobeithio y bydd llawer o sefydliadau eraill yn dilyn esiampl wych Trydan Gwyrdd Cymru gan ddod yn gyflogwr achrededig Cyflog Byw go iawn."   

Dywedodd Katherine Chapman, Cyfarwyddwr, Sefydliad Cyflog Byw: "Rydym wrth ein bodd bod Trydan Gwyrdd Cymru wedi ymuno â mudiad dros 15,000 o gyflogwyr cyfrifol ledled y DU sy'n ymrwymo'n wirfoddol i fynd ymhellach nag isafswm y llywodraeth i sicrhau bod eu holl staff yn ennill digon i fyw.

"Maen nhw'n ymuno â miloedd o fusnesau bach, yn ogystal ag enwau cyfarwydd fel Burberry, Barclays, Clwb Pêl-droed Everton a llawer mwy. Mae'r busnesau hyn yn cydnabod bod talu'r Cyflog Byw go iawn yn arwydd o gyflogwr cyfrifol ac maen nhw, fel Trydan Gwyrdd Cymru, yn credu bod diwrnod caled o waith yn haeddu tâl teg."

Llun Simon a'r Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd   Llun Simon a'r Cynghorydd Andrew Morgan Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf

Ar y chwith: Simon Morgan a Cynghorydd Huw Thomas Arweinydd Cyngor Caerdydd

Ar y dde: Simon Morgan & Cynghorydd Andrew Morgan Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf

       Logo cyflog byw