Cyfarchion y Tymor a Newyddion Ti

Cyhoeddwyd 20/12/2024   |   Diweddaru Diwethaf 20/12/2024

Mae 2024 wedi bod yn flwyddyn bwysig i Drydan Gwyrdd Cymru - er ein bod wedi cofrestru'n swyddogol fel cwmni sy'n eiddo llwyr i Lywodraeth Cymru ar ddiwedd 2023, cawsom ein lansio'n gyhoeddus ym mis Gorffennaf 2024. Ar ddiwrnod lansio, gwnaethom estyn allan at bobl yng Nghymru i glywed sut rydych chi'n ystyried cynnydd Cymru mewn cynhyrchu trydan adnewyddadwy. Gofynnon hefyd beth rydych chi'n ei werthfawrogi am gronfeydd budd cymunedol a beth allai fod yn well, a'r hyn yr hoffech chi ei weld o ran manteision prosiectau Trydan Gwyrdd Cymru yn y blynyddoedd i ddod. Mae ein cylchlythyr cyntaf "Gwefr" yn rhoi trosolwg, o'r ymateb a gawsom. Ewch i dudalen Cymuned i'w weld.

Diolch i bawb a gymerodd ran yn "TI'n gyntaf!" – yn cynnwys cyfoeth o syniadau gwreiddiol, data cadarn, a phrofiad cymunedol – mae'r adborth a'r mewnwelediadau yn werthfawr iawn i ni.  A byddwn yn cychwyn mwy o sgyrsiau gyda chymunedau a rhanddeiliaid, yn 2025, i ddeall syniadau a safbwyntiau lleol mewn mwy o fanyldeb. 

Yn ystod 2025 mi fydd Trydan yn ymgysylltu gyda phobl yng Nghymru yn fwy, ac rydym yn gobeithio y byddwch yn parhau i fod yn rhan o sgyrsiau a'n taith. Dyma gyfle i ddathlu dechreuadau da, ac i wneud cynnydd gyda'n gilydd. 

Ar ran holl dîm Trydan Gwyrdd Cymru, dymunwn wyliau hapus a diogel i bawb!