Mae Trydan Gwyrdd Cymru Cyf wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i:
-
trydangwyrddcymru.wales
-
trydangwyrddcymru.cymru.
Rheolir y wefan hon gan Trydan Gwyrdd Cymru Cyf. Rydyn ni eisiau cynifer o bobl â phosibl i allu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, dylai hynny olygu y dylech chi allu:
-
newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau gan ddefnyddio gosodiadau porwr neu ddyfais
-
chwyddo mewn hyd at 400% heb i'r testun ollwng oddi ar y sgrin
-
llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd neu feddalwedd adnabod lleferydd
-
gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym ni hefyd wedi gwneud y testun gwefan mor syml â phosibl i'w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych chi anabledd.
PA MOR HYGYRCH YW'R WEFAN HON
Rydym ni’n gwybod nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch. Mae asesiad archwilio hygyrchedd llawn ar y gweill a bydd y datganiad hwn yn cael ei ddiweddaru gyda'r holl faterion hysbys erbyn 5 Awst 2024.
ADBORTH A GWYBODAETH GYSWLLT
Os ydych chi'n dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n meddwl nad ydym yn bodloni'r gofynion hygyrchedd, cysylltwch â: croeso@trydangwyrddcymru.wales
Os ydych chi angen gwybodaeth ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, darllen hawdd, recordiad sain neu braille, dylech:
-
anfon e-bost at croeso@trydangwyrddcymru.wales
-
Ysgrifennu at Trydan Gwyrdd Cymru, Swyddfa Llywodraeth Cymru, Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi o fewn deg o ddiwrnodau gwaith.
GWEITHDREFN ORFODI
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych chi’n hapus gyda'n hymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
GWYBODAETH DECHNEGOL AM HYGYRCHEDD Y WEFAN HON
Mae Trydan Gwyrdd Cymru Cyf wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.2 safon AA, , oherwydd 'y diffyg cydymffurfio' a restrir isod.
CYNNWYS NAD YW'N HYGYRCH
Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol
Diffyg cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd
Nid oes testun amgen ar gyfer rhai delweddau, felly ni all pobl sy'n defnyddio darllenydd sgrin gael mynediad at y wybodaeth. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.2 1.1.1 (cynnwys nad yw'n destun).
Rydym ni’n bwriadu ychwanegu dewisiadau testun ar gyfer pob delwedd erbyn 16/09/2024. Wedyn pan fyddwn yn cyhoeddi cynnwys newydd, byddwn yn sicrhau bod ein defnydd o ddelweddau yn bodloni safonau hygyrchedd.
BETH RYDYN NI'N EI WNEUD I WELLA HYGYRCHEDD
Yn dilyn yr archwiliad hygyrchedd rydym wedi'i gomisiynu, byddwn yn dylunio a chyhoeddi map hygyrchedd Trydan Gwyrdd Cymru. Bydd hyn yn disgrifio sut a phryd rydym yn bwriadu gwella hygyrchedd ar y wefan hon.
Mae gwneud gwefan yn hygyrch yn golygu sicrhau y gall cymaint o bobl â phosibl ei defnyddio. Mae hygyrchedd yn golygu mwy na rhoi pethau ar-lein. Mae'n golygu gwneud ein cynnwys a'n dyluniad yn ddigon clir a syml fel y gall y rhan fwyaf o bobl ei ddefnyddio heb fod angen ei addasu. Mae hefyd yn golygu ein bod yn cefnogi'r rhai sydd angen addasu pethau.
Credwn y dylai cymaint o bobl â phosibl gymryd rhan wrth lunio ein dyfodol ynni, a dyna pam yr hoffem i bobl gael gafael ar wybodaeth sy'n glir, yn onest, yn dryloyw ac yn gywir. Fel hyn, byddwn yn cael yr ystod ehangaf bosibl o safbwyntiau gwybodus pan fyddwn yn gofyn am adborth, a byddwn wedi helpu i wella dinasyddiaeth ynni yng Nghymru.
Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 12/07/2024. Adolygwyd ddiwethaf ar 12/07/2024.
Bydd y wefan hon yn cael ei phrofi rhwng 17 a 31 Gorffennaf 2024, yn erbyn safon AA WCAG 2.2.
Bydd y prawf yn cael ei gyflawni gan Web Usability gan ddefnyddio Methodoleg Gwerthuso WCAG.