Bydd ynni adnewyddadwy yn rhoi’r pŵer i Gymru ffynnu.
Yn ein cenedl, bydd pobl a natur yn gweithio gyda’i gilydd ar gyfer dyfodol glanach a mwy disglair.
Amcan Trydan Gwyrdd Cymru yw cynyddu’r gwerth i Gymru o ddatblygiadau ynni adnewyddadwy, yn bennaf ar Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn berchen ar ddarnau mawr o dir ac yn eu rheoli, gan gynnwys ei Ystâd Goetir, a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), sy’n gorchuddio mwy na 126,000 hectar, sef bron i 6% o gyfanswm arwynebedd tir y wlad.
Tra'n osgoi tir o fewn ardaloedd gwarchodedig megis Parciau Cenedlaethol a Thirweddau Naturiol, mae ardaloedd mawr o dir o fewn yr Ystâd Goetir wedi'u nodi fel rhai priodol ar gyfer datblygiad ynni gwynt. Mae hwn yn ateb craff, sy'n galluogi cydfodolaeth rhwng coedwigaeth fasnachol, cynhyrchu ynni adnewyddadwy, yn ogystal â swyddogaethau eraill, gan gynnwys hamdden (gwifrau gwib a llwybrau beiciau), rheoli cynefinoedd ac atal llifogydd.
Nod Trydan Gwyrdd Cymru yw cyflawni prosiectau ynni adnewyddadwy ar draws yr ystâd gyhoeddus, a gwneud y gorau o’r buddion i Gymru o bortffolio o brosiectau ynni gwynt, ac o bosibl atebion ynni clyfar eraill. Bydd ôl troed prosiectau Trydan Gwyrdd Cymru yn y pen draw, drwy gyfrannu at sicrhau bod anghenion pŵer Cymru yn cael eu bodloni, yn gyfran fach iawn o’r daliad tir hwn.
Byddwn yn defnyddio ein blynyddoedd o brofiad ac yn gweithio gydag eraill i sicrhau bod cymunedau lleol yn cael budd ystyrlon o brosiectau y maent yn rhan ohonynt, a bod incwm yn mynd yn ôl i Lywodraeth Cymru i helpu i gyflawni ei mentrau a’i thargedau uchelgeisiol.
Mae gweithgareddau masnachol, hamdden ac ystyriol o natur eisoes yn digwydd ar yr ystâd goetir heddiw. Mae lle i ddatblygu a gweithredu mwy ar ffermydd gwynt ochr yn ochr â’r mentrau hyn.
Rydym yn nodi lleoliadau addas ar gyfer datblygu drwy ystyried cymaint o wybodaeth berthnasol â phosibl, o nodweddion ffisegol ochr bryn – megis, pa mor wyntog ydyw ac a all cydrannau mawr gael mynediad ato; i beth a phwy sy’n byw yno’n barod.
Hyd yn hyn, rydym wedi edrych ar ddata presennol. Mae ‘na lawer ohono. Ein nod yw cyfyngu ein chwilio, i safleoedd sydd â'r potensial gorau i ddarparu ynni glân, gwyrdd y mae mawr ei angen, yn ogystal â manteision cymdeithasol ac amgylcheddol. Ar safleoedd addawol, bydd angen i ni gynnal arolygon pwrpasol, ac ymchwiliadau â ffocws. Er enghraifft, mae angen inni arsylwi adar yn y safle ac o'i gwmpas, dros sawl tymor.
Ein nod yw deall yn llawn ymddygiad yr holl rywogaethau ar y safle, a’r mathau o gynefinoedd y maent yn byw ynddynt, er mwyn sicrhau bod cydfodoli’n gytûn yn bosibl. Mae datblygiad cyfrifol yn cymryd amser a gofal.
Er mwyn dysgu am yr hyn mae pobl yn ei werthfawrogi mewn cymdogaeth, a'r hyn y gallent obeithio ei weld yn cael ei wella neu ei warchod yn y dyfodol, mae angen inni ofyn, wrth reswm. A gwrando.
Byddwn yn cysylltu ag arbenigwyr lleol, gan gynnwys cymunedau lleol, i gael eu cymorth, yn gynnar iawn yn y broses o nodi safleoedd posibl, cyn i benderfyniadau mawr gael eu gwneud. Mae lleoli a llunio’r prosiectau gorau posibl, lle gall cynhyrchu ynni gwynt gydfodoli’n gytûn ag eraill, lle mae’r broses o wneud penderfyniadau’n gadarn, a lle mae datblygiadau’n cyfrannu at wytnwch lleol, yn ymdrech fawr ar y cyd.
A oes angen mwy o ynni adnewyddadwy arnom?
Mae Cymru yn wlad hardd, sy’n cael ei charu a’i mwynhau gan drigolion ac ymwelwyr. Ond yma hefyd, rydym eisoes yn profi effeithiau newid hinsawdd, o lifogydd, i golli bioamrywiaeth, i brisiau bwyd a hanfodion eraill sy’n codi, sy'n deillio o gynnydd mewn costau sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd gartref a ledled y byd.
Er mwyn bod yn ddoethach wrth ystyried yr hinsawdd, yn fwy ystyriol o natur a sicrhau bod effeithiau negyddol sy'n effeithio ar bobl sy'n agored i niwed yr hinsawdd, heddiw ac yn y dyfodol, yn cael eu hosgoi cyn belled ag y bo modd, mae angen i ni leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr i'r atmosffer. Y mwyaf cyffredin o'r rhain yw carbon deuocsid. Gallwn, ac mae’n rhaid inni wneud hyn mewn nifer o ffyrdd. Yn syml, gallwn leihau faint o ynni a ddefnyddiwn a gallwn drosglwyddo tuag at gynhyrchu a defnyddio ynni adnewyddadwy. Y ffordd gyflymaf, fwyaf cost-effeithiol o wneud hyn, ar raddfa fawr, yw trwy ddatblygu ffermydd gwynt mwy (ar raddfa cyfleustodau) ar y tir.
Mae gan ddatblygiadau ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr ar y tir, yn y lleoliad cywir, gefnogaeth gref o ran polisi. Drwy sicrhau bod mwy o werth o brosiectau yng Nghymru yn cael ei gadw yma, a galluogi pobl, cymunedau a sefydliadau lleol i fod yn rhan o lunio dyfodol mwy disglair, mwy gwyrdd, mwy llewyrchus, gallwn gyflymu’r cyfnod trawsnewid ynni yma.
Gadewch i ni weithio gyda'n gilydd.
Faint ydych chi'n ei wybod am y trydan sy'n pweru eich cartref, eich ysgol, eich gwaith?
Mae rhai gweithfeydd cynhyrchu ynni lleol ar raddfa lai’n darparu pŵer ar gyfer defnydd lleol iawn, ond mae'r rhan fwyaf o eneraduron mwy (a elwir weithiau yn “raddfa cyfleustodau”) yn cyfrannu at system genedlaethol, a reolir gan weithredwr y system drydan, yn symud trydan o amgylch y wlad, gan gadw'r goleuadau ynghyn. Mae’r map yn dangos sut mae trydan yn llifo i ac o ranbarthau o Brydain yn ystod y dydd a’r nos. Mae ffynonellau gwahanol yn cyfrannu at y trydan sydd ar gael yr ydym yn dibynnu arno. Gelwir hyn yn gymysgedd egni. Mae gweithfeydd tanwydd ffosil fel gorsafoedd nwy yn garbon-ddwys iawn, tra bod ynni adnewyddadwy yn ddi-garbon.
Gallwch weld bod yr ynni a ddefnyddir ac sy’n llifo o Gymru yn garbon-ddwys yn gyson. Y dwysedd carbon hwn yw'r hyn mae'r trawsnewid ynni yn ceisio ei leihau. Ni all fod yn newid sydyn, gan fod angen inni ddatblygu technolegau cyflenwol i gydbwyso a storio ynni, fel ei fod wastad yno pan fydd ei angen arnom, mewn ffatrïoedd, mewn ysbytai, mewn labordai, mewn siopau, ac mewn cartrefi. Mae nifer o sefydliadau a chwmnïau’n arloesi'r atebion technolegol sydd eu hangen arnom i gyrraedd Sero Net.
Os ydym yn cynhyrchu mwy o ynni adnewyddadwy carbon isel gartref, dan berchnogaeth leol, rydym yn:
• gwella ein sicrwydd ynni (sy’n golygu ein bod yn llai dibynnol ar fewnforion tramor a’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r math hwnnw o fasnach);
• helpu i leihau cost ynni yn y tymor hir,
• cadw mwy o'r manteision a'r elw sy'n gysylltiedig â chynhyrchu trydan yng Nghymru, a
• bod yn ran o fudiad byd-eang i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth.
Dangosfwrdd Dwysedd Carbon ESO (Gweithredwr System Ynni)
Os yw’r DU yn mynd i gyflawni sero net erbyn 2050, rhaid i Weithredwr y System Drydan, ynghyd â diwydiant, ddarparu system drydan sero net. Darganfyddwch beth sydd wedi’i gyflawni eisoes, a pham mae angen mwy o gynhyrchu ynni carbon isel arnom, gyda’r Dangosfwrdd Dwysedd Carbon byw gan y Grid Cenedlaethol.
Gwelwch dangosfwrdd dwysedd carbon ein ynni