Cynaladwyedd

Mae ein tîm wedi ymrwymo i sicrhau canlyniadau cadarnhaol, cynaliadwy i bobl Cymru a’r blaned, ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol

Ein Gwerthoedd

Ansawdd - Ymdrechu am ragoriaeth ym mhopeth a wnawn ar gyfer dyfodol llewyrchus.

Cydweithio – Gweithio gyda’n gilydd er budd yr amgylchedd a llesiant pobl.

Cymuned - Gweithio er lles Cymru a'i chymunedau mewn ffordd gyfrifol.

Eglurder - Cyfathrebu'n fanwl gywir, yn syml ac yn dryloyw.

Cynaliadwyedd - Gweithio tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy, trwy helpu adeiladu cymunedau gwydn sy'n gallu addasu i newid.

Cynhwysiant - Gwneud i bob llais deimlo'n groesawgar, yn gyfartal ac yn werthfawr, gan gynnwys y rhai rydym yn gweithio gyda nhw ac o fewn ein cymunedau

Cyfrifoldeb Cymdeithasol

Mae budd ac anghenion cymunedau Cymru wrth galon Trydan Gwyrdd Cymru.

Cwmni Cymreig ydym ni. Mae ein staff yn byw yma, yn gweithio yma, yn magu teuluoedd yma ac yn rhan o'r cymunedau lleol lle rydym yn byw. Rydym yn rhannu llawer o werthoedd, pryderon a gobeithion y cymunedau y byddwn ni’n gweithio gyda nhw, gan gynnwys y rhai sy’n gyfagos ac yn croesawu ein prosiectau yn y dyfodol, a ledled Cymru.

Dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf, byddwn yn gweithio gyda chymunedau lleol i nodi amrywiaeth o ffyrdd y gallwch chi fod yn rhan o brosiectau Trydan Gwyrdd Cymru ac elwa arnynt. Mae cymryd ran ystyrlon â datblygiadau yn hanfodol er mwyn sicrhau manteision i Gymru ac er mwyn llywio’r broses o’r trawsnewidiad ynni, yn ei blaen.

Mae llawer o werth datblygiadau seilwaith mawr yn gysylltiedig â’r buddsoddiad, y swyddi a’r sgiliau y maent yn eu cloi i mewn i gymdogaeth a chenedl. Byddwn yn dangos arfer gorau wrth ymgorffori gwerth cymdeithasol yn ein proses gaffael, ac ym mhob agwedd ar ddatblygu, adeiladu a gweithredu prosiectau.

Gallai pobl brofi "ynni ffynnu" mewn nifer o ffyrdd, megis: 

·       Cronfeydd Budd Cymunedol wedi'u sefydlu, gydag ac ar gyfer, cymunedau lleol, gan fynd i'r afael ag anghenion a diddordebau tymor byr.

·       Neu a fyddai pobl ledled Cymru yn hoffi gwario rhywfaint o'r elw a gynhyrchir yn y pen draw, ar gyfer  blaenoriaethau cenedlaethol, tymor hir, fel newid yn yr hinsawdd, iechyd, gofal cymdeithasol, gofal plant, sgiliau ac addysg, neu dai cymdeithasol?

Bydd Trydan yn gofyn eich barn.

Bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio eich ymatebion yn ei dull o ymdrin â'r elw.

Cynaliadwyedd amgylcheddol

Trwy ein busnes a’n prosiectau unigol, mae Trydan Gwyrdd Cymru wedi ymrwymo i wella yr amgylchedd, gwarchod adnoddau naturiol, a hyrwyddo datrysiadau sy’n seiliedig ar natur a seilwaith gwyrdd.

Bydd ein holl brosiectau’n cael eu hasesu’n drylwyr a’u pennu drwy’r system gynllunio, fel unrhyw ddatblygiad ynni adnewyddadwy arall yng Nghymru. Mae graddfa “cyfleustodau” ein prosiectau yn golygu mai Gweinidogion Cymru fydd yn penderfynu arnynt. Bydd penderfyniadau ar geisiadau Trydan, fel unrhyw rai eraill, yn cael eu gwneud yn annibynnol ac yn wrthrychol.

Mae asesu effeithiau amgylcheddol yn rhan allweddol o'r broses gynllunio. Byddwn yn cynnal Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol (AEA) ar gyfer ein holl brosiectau. Bydd y broses AEA yn asesu’r effeithiau posibl (cadarnhaol a negyddol) y gallai ein prosiectau eu cael ar yr amgylchedd ac yn sicrhau bod y rhain yn cael eu hystyried yn y broses ddylunio. Bydd yr AEA yn edrych ar amrywiaeth o bynciau megis coedwigaeth, treftadaeth ddiwylliannol, yr effaith ar y dirwedd a’r effaith weledol, adareg, ac ecoleg dros oes y prosiect - o adeiladu, hyd at weithredu, a dadgomisiynu.

Bydd y broses AEA yn ein helpu i nodi’r ffordd orau i ni leihau effeithiau amgylcheddol posibl ein prosiectau ac archwilio’r mesurau y byddem yn eu cymryd i osgoi, lliniaru, neu wneud iawn am yr effeithiau hyn. Ochr yn ochr â rhaglen helaeth ac eang o ymgynghori â rhanddeiliaid, bydd y broses hon yn ein galluogi i gynnwys buddion amgylcheddol effeithiol a gwerthfawr wrth ddylunio ein prosiectau.

Rydym yn cydnabod y gall adeiladu a gweithredu datblygiadau ynni adnewyddadwy effeithio ar y cymunedau o’u cwmpas. Ein nod yw dylunio prosiectau sy’n sensitif i gymunedau cyfagos ac sy’n ymateb i gymeriad nodedig yr amgylchedd lleol. Mae ymgynghori’n rhan bwysig o’r broses ddylunio (a chynllunio) gan ei fod yn galluogi pawb i wneud sylwadau ar y cynigion. Bydd yr adborth a gawn gan y gymuned a rhanddeiliaid eraill, ynghyd â’r astudiaethau technegol ac amgylcheddol manwl, yn llywio datblygiad ein cynigion.

Cyflawni dros Gymru, datblygu prosiectau cynaliadwy

Ynni i ffynnu: Bydd prosiectau Trydan Gwyrdd Cymru yn helpu i greu Cymru wyrddach, gryfach a thecach.

Ein nod yw gwneud y gorau o’r buddion i Gymru gyfan o ddatblygu prosiectau ynni adnewyddadwy, yn bennaf ar Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru. Byddwn yn gwneud hyn drwy:

• Berchenogaeth gyhoeddus yn ystod y cyfnod datblygu – cyflawni prosiectau a ganiatawyd yw'r cam-creu-gwerth cyntaf yn oes prosiectau seilwaith ynni adnewyddadwy.

• Rheoli’r dyluniad a’r adeiladu’n fanwl – gwneud y gorau o gyfranogiad cwmnïau nwyddau a gwasanaethau o Gymru, cefnogi cannoedd o swyddi peirianneg ac adeiladu, a sicrhau, rheoli a chyfeirio buddsoddiad enfawr i'r economïau lleol.

• Mae gweithredu prosiectau yn ystod eu 35 mlynedd o gynhyrchu, yn sicrhau gwerth hirdymor i Gymru, gan fod yr holl refeniw o werthu trydan yn aros yng Nghymru, a bydd yn cael ei reoli gan ein hunig gyfranddaliwr – Llywodraeth Cymru.

Bydd y rhaglen o brosiectau ynni adnewyddadwy sy’n cael ei datblygu gan Trydan Gwyrdd Cymru yn helpu i ddarparu trydan adnewyddadwy sy’n cael ei gynhyrchu gartref a fydd yn cyfrannu at dargedau sero net 2050 a osodwyd gan Senedd Cymru. Bydd ein prosiectau’n cyfrannu at dargedau interim 2030 (yn dibynnu ar seilwaith y grid) a 2040 ar Lwybr Sero Net ein Cenedl, a lleihau ein dibyniaeth ar ddulliau mwy carbon-ddwys o gynhyrchu trydan, gan ddarparu ynni newydd, glân i bweru cartrefi a busnesau, yng Nghymru ac ar draws y DU.