Hawlfraint y Goron
Haf o sgwrsio, gwrando, a theithio ledled Cymru
Cafodd aelodau tîm Trydan y pleser o gwrdd ag ystod eang o bobl, o gymunedau amrywiol Cymru, dros yr haf.
Trwy ddigwyddiadau diwylliannol o bob maint – o’r Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol i fete ysgolion lleol, sioeau amaethyddol o’r Sioe Fawr i Nantglyn, cyfarfodydd grwpiau cymunedol a busnes o Gaerfyrddin i Aberdâr a Maerdy, digwyddiadau addysgiadol ac ymweliadau i safleoedd, mae Trydan wedi bod ymgysylltu â phobl Cymru, ar draws Cymru, gan rannu ei weledigaeth o Gymru sydd â’r “ynni i ffynnu”.
I gadw’n gyfredol ar waith Trydan, gallwch danysgrifio am ein cylchlythyrau, neu dilyn ein cyfrifon Instagram a LinkedIn.
Ein Cenhadaeth
Cenhadaeth Trydan Gwyrdd Cymru yw datgloi potensial ynni adnewyddadwy Cymru, a sicrhau buddion i’n cymdeithas, ein hamgylchedd a’n heconomi, i bawb sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru heddiw ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Byddwn yn gwneud hyn drwy gyflawni ein gwaith mewn modd rhagorol, arwain yn gyfrifol a chydweithio rhagweithiol.
Llywodraeth Cymru yw perchennog Trydan Gwyrdd Cymru https://www.llyw.cymru/
Ein Hamcanion
Mae Lywodraeth Cymru wedi cyfarwyddo Trydan Gwyrdd Cymru i ddatblygu a chyflawni prosiectau ynni adnewyddadwy, yn gyntaf ar ystâd gyhoeddus Cymru, gan sicrhau'r buddion economaidd a chymdeithasol hirdymor gorau posibl i bobl Cymru.
Nodau Trydan Gwyrdd Cymru yw:
• datblygu 1 GW (1000 MW) o gapasiti cynhychu egni adnewyddadwy newydd erbyn 2040.
• bod yn ddatblygwr enghreifftiol, gan weithio gyda'r diwydiant a chymunedau ehangach.
• cynghori a gweithio gyda'r sector cyhoeddus, i wireddu cynhyrchu ynni adnewyddadwy dan berchnogaeth leol.
Pam mae angen prosiectau ynni glân ar raddfa fawr?
Onid yw paneli solar ar adeiladau yn ddigon? Beth yw manteision datblygiadau ar Ystâd Goedwigaeth Llywodraeth Cymru? Mae'r ffilm fer hon yn cynnig rhai atebion.
Cymryd rhan
Mae cymunedau lleol a rhanddeiliaid yn allweddol i lunio cynlluniau datblygu Trydan Gwyrdd Cymru. Rydym yn dod atoch chi am wybodaeth leol ar y cyntaf o'n prosiectau. Gweler dudalennau "Ein Gwaith". Mae darparu buddion i Gymru a'r cymunedau agosaf i'n prosiectau yn ganolog i'n pwrpas ynni i ffynnu. Ceir fwy o wybodaeth ar dudalen we Cymuned.
Cymuned
Gwybodaeth am ein gwaith
Byddwn yn canolbwyntio i ddechrau ar Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru, gan asesu ble y gellir datblygu prosiectau ynni adnewyddadwy cynaliadwy. Mae datblygiadau safonol, cynaliadwy yn golygu cyflawni'r canlyniadau mwyaf cadarnhaol hirdymor i bobl, natur a'r blaned. Darllenwch ragor am ein hastudiaethau amgylcheddol a thechnegol sy'n cyfrannu at ein cynlluniau a dysgwch fwy am ein prosiectau cyntaf.
Ein gwaith
Pam Trydan Gwyrdd Cymru?
Mae llawer o ddatblygwyr eisoes yn gweithredu yng Nghymru, y DU ac yn fyd-eang. A fydd Trydan Gwyrdd Cymru yn gwneud gwahaniaeth? Gall pob datblygwr ynni adnewyddadwy helpu i fynd i'r afael ag effeithiau newid hinsawdd, cyfrannu at drawsnewid ynni, a thros y tymor hir, helpu i leihau cost ynni i ddefnyddwyr. Trydan Gwyrdd Cymru yw’r unig ddatblygwr ynni gwynt ar y tir ar raddfa fwy sy’n eiddo’n gyfan gwbl i bobl Cymru gyda ffocws unigol ar gyflawni dros Gymru. Dyma'r tîm.
Pwy ydym ni
A all byd natur a seilwaith ynni adnewyddadwy gydfodoli mewn cytgord?
Un o'r bygythiadau mwyaf i fyd natur yw newid hinsawdd. Mae natur hefyd yn cael ei bygwth gan effeithiau lleol, o nifer o wahanol fathau o weithgarwch dynol. Mae gwell dealltwriaeth yn golygu datblygu seilwaith gwell a mwy cynaliadwy. Mae dewis ble i ddatblygu yn allweddol. Bydd Trydan Gwyrdd Cymru yn rhan o’r ymgyrch i ddefnyddio tir cyhoeddus Cymru yn fwy strategol ac effeithlon, gan sicrhau manteision lluosog ym mhob lleoliad. Mae coedwigoedd planhigfeydd conwydd yn darparu adnoddau pwysig i gymdeithas, ac mae'r patrwm cylchol o dorri ac ailblannu’n agor lle i dyrbinau gwynt. Gydag arferion rheoli coedwigoedd newydd, mae coedwigaeth fasnachol yn gweithio'n well gyda natur, ac mewn partneriaeth, byddwn yn archwilio cyfleoedd i sicrhau buddion bioamrywiaeth.
Cynaladwyedd